Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn ar gyfer y gwasanaeth Gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), ar gael ar https://www.apply-for-pip.dwp.gov.uk/
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau i gymaint o bobl ȃ phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau drwy ddefnyddio gosodiadau’r porwr neu ddyfais
- chwyddo i mewn hyd at 400% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio yr holl wasanaeth drwy ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth hwn mor syml ȃ phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Mae'r gwasanaeth yn defnyddio arddulliau, patrymau a chydrannau cyffredin o System Ddylunio GOV.UK sy'n cael eu hystyried yn eang fel rhai hygyrch.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Gofynnir am wybodaeth a roddwyd yn flaenorol (cyfeiriad e-bost) eto yn yr un broses. Bydd yn rhaid i chi nodi'ch cyfeiriad e-bost fwy nag unwaith.
- Mae gan y dudalen sy'n gofyn am eich cyfeiriad ddau fewnbwn gyda'r un label (adeilad a stryd). Efallai na fydd yn glir beth i'w roi ym mha faes.
Gwneud cais am wybodaeth mewn ffurf gwahanol
Cysylltwch â ni os ydych angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn ffurf gwahanol fel print bras, ffurf hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn edrych i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych yn dod o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu’n meddwl nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: quarryhouse.applyforpip-accessibility@dwp.gov.uk
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif. 2). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae'r gwasanaeth hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.2., oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd
- Gofynnir am wybodaeth a roddwyd yn flaenorol (cyfeiriad e-bost) eto yn yr un broses. Bydd yn rhaid i chi nodi'ch cyfeiriad e-bost fwy nag unwaith. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 3.3.7 (cofnod diangen). Rydym yn gweithio trwy sut i ddatrys y mater hwn, ac ni allwn ddarparu dyddiad eto pan fydd y mater yn cael ei ddatrys.
- Mae gan y dudalen sy'n gofyn am eich cyfeiriad ddau fewnbwn gyda'r un label (adeilad a stryd). Efallai na fydd defnyddwyr yn gwybod pa ddata mewnbwn a ddisgwylir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 3.3.2 (labeli neu gyfarwyddiadau). Rydym yn bwriadu datrys y broblem hon erbyn 7 Gorffennaf.
Sut rydym wedi profi'r gwasanaeth hwn
Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf yn Ebrill 2025 a chafodd ei wirio am gydymffurfiaeth yn erbyn safon AA WCAG 2.2. Gwnaed y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Profwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio cyfuniad o brofion llaw ac awtomataidd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn cynnal profion hygyrchedd â llaw ac awtomataidd ar gyfer pob diweddariad mawr yn erbyn meini prawf WCAG 2.2.
Byddwn yn parhau i weithio ar dyluniad y gwasanaeth i gywiro problemau rydym yn gwybod amdanynt.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 6 Hydref 2020. Cafodd ei adolygu diwethaf ar 23 Mai 2025.