Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn ar gyfer y gwasanaeth Gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), ar gael ar https://www.apply-for-pip.dwp.gov.uk/
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau i gymaint o bobl ȃ phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau drwy ddefnyddio gosodiadau’r porwr neu ddyfais
- chwyddo i mewn hyd at 400% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio yr holl wasanaeth drwy ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth hwn mor syml ȃ phosibl i’w ddeall.
AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Mae'r gwasanaeth yn defnyddio arddulliau, patrymau a chydrannau cyffredin o System Ddylunio GOV.UK sy'n cael eu hystyried yn eang fel rhai hygyrch.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Gofynnir am wybodaeth a roddwyd yn flaenorol (cyfeiriad e-bost) eto yn yr un broses. Bydd yn rhaid i chi nodi'ch cyfeiriad e-bost fwy nag unwaith.
- Mae gan y dudalen sy'n gofyn am eich cyfeiriad ddau fewnbwn gyda'r un label (adeilad a stryd). Efallai na fydd yn glir beth i'w roi ym mha faes.
Gwneud cais am wybodaeth mewn ffurf gwahanol
Cysylltwch â ni os ydych angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn ffurf gwahanol fel print bras, ffurf hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni..
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn edrych i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych yn dod o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu’n meddwl nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: quarryhouse.applyforpip-accessibility@dwp.gov.uk
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif. 2). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae'r gwasanaeth hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod..
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd
- Gofynnir am wybodaeth a roddwyd yn flaenorol (cyfeiriad e-bost) eto yn yr un broses. Bydd yn rhaid i chi nodi'ch cyfeiriad e-bost fwy nag unwaith. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 3.3.7 (cofnod diangen). Rydym yn gweithio trwy sut i ddatrys y mater hwn, ac ni allwn ddarparu dyddiad eto pan fydd y mater yn cael ei ddatrys.
- Mae gan y dudalen sy'n gofyn am eich cyfeiriad ddau fewnbwn gyda'r un label (adeilad a stryd). Efallai na fydd defnyddwyr yn gwybod pa ddata mewnbwn a ddisgwylir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 3.3.2 (labeli neu gyfarwyddiadau). Rydym yn bwriadu datrys y broblem hon erbyn 7 Gorffennaf.
Sut rydym wedi profi'r gwasanaeth hwn
Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf yn Ebrill 2025 a chafodd ei wirio am gydymffurfiaeth yn erbyn safon AA WCAG 2.2. Gwnaed y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn cynnal profion hygyrchedd â llaw ac awtomataidd ar gyfer pob diweddariad mawr yn erbyn meini prawf WCAG 2.2.
Byddwn yn parhau i weithio ar dyluniad y gwasanaeth i gywiro problemau rydym yn gwybod amdanynt.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 6 Hydref 2020. Cafodd ei adolygu diwethaf ar 23 Mai 2025.